I Ti O Dduw y gweddai parch

1,2,3,(4,5).
(Cydnabod doniau Duw)
I Ti, O Dduw! y gweddai parch,
  Gwna pob peth
      arch dy orsedd;
Ti bia'r haul,
    y gwlaw, a'r gwlith,
  A'r fendith fawr ei rhinwedd.

Ti sy'n addfedu
    cnwd y maes,
  Tydi o'th ras sy'n trefnu
Pob dydd o'r tymmhor
    oll, a'i rîn,
  A hyfryd hîn i gasglu.

Am haul a lleuad, gwynt a gwres,
  Am wlaw yn gynnes canwn;
Am borthi pob creadur byw,
  Ti, Arglwydd Dduw, addolwn.

Mor ogoneddus, Arglwydd Dduw,
  A rhyfedd dy ddaioni!
Ein dyddiau breuol cânt, o'r born,
  Â'th roddion eu coroni.

Am ffrwythau hael y flwyddyn hon,
  A'i mawrion dugareddau,
Moliannu d'Enw mawr a wnawn
  Gan iawn ddefnyddio'n breintiau.
Richard Jones ?1771-1833

Tonau [MS 8787]:
Cemmaes (John Williams 1740-1821)
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Dyfroedd Siloah (John Williams 1740-1821)
Hyfrydle (G W Hughes 1861-1941)
Morgannwg (Joseph Klug c.1500-52)
  Prion (alaw Gymreig)
Tregeiriog (T Hopkin Evans 1879-1940)
Treherbert (Hugh Hughes 1876- )

gwelir:
  Gofala Duw a Thad pob dawn
  Mor ogoneddus Arglwydd Dduw

 
To Thee, O God, belongs reverence,
  Every thing the command
      of thy throne does make;
To thee belong the sun,
    the rain, and the dew,
  An the great blessing of its merit.

It is Thou who maturest
    the crop of the field,
  Thou of thy grace is arranging
Every day of all the
    season and its esteem,
  And delightful weather to gather.

For sun and moon, wind and warmth,
  For rain, warmly let us sing;
For nourishing every living creature,
  Thou, Lord God, we worship.

How glorious, Lord God,
  And wonderful thy goodness!
Our fragile days, get completely
  Crowned with thy gifts.

From generous fruits this year,
  And its great mercies,
Praise thy great Name we shall
  By rightly using our privileges.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~